Wycliffe News Cymru yw ein cylchgrawn dwyieithog sy’n cysylltu pobl Cymru ac eglwysi â’r gwaith cyffrous o gyfieithu’r Beibl ledled y byd.
Wycliffe News Cymru yw ein cylchgrawn dwyieithog sy’n cysylltu pobl Cymru ac eglwysi â’r gwaith cyffrous o gyfieithu’r Beibl ledled y byd.
‘Mae angen i ni weddïo a diolch i Dduw am yr holl ddynion a menywod sy’n rhoi eu bywyd i wneud yn siŵr bod y Beibl yn cael ei gyfieithu, ei gynhyrchu a’i ddosbarthu, a bod pobl yn ei ddeall. Dyna pam rwy’n gweddïo dros waith Wycliffe, ei gefnogi, ac yn diolch i Dduw amdano. Rwy wastad wrth fy modd yn darllen y wybodaeth ddiweddaraf a’r straeon ac yn gweld yr hyn y mae Duw yn ei wneud.’
Jonathan, gweinidog Eglwys Cornerstone, Y Fenni
A hoffech chi ymuno â Jonathan a llawer o bobl eraill yng Nghymru er mwyn gweddïo ynghylch y gwaith o gyfieithu’r Beibl, ei gefnogi a chael y wybodaeth ddiweddaraf amdano?
Mae Wycliffe News Cymru yn cynnwys y newyddion a’r straeon diweddaraf am brosiectau cyfieithu’r Beibl ledled y byd, y ffyrdd y mae eglwysi a Christnogion o Gymru wedi cyfrannu at y gwaith hwn dros y blynyddoedd, a straeon gan eglwysi lleol a’u cyfraniad at waith Wycliffe.
Mae gennym gymuned o dros ugain o bobl o Gymru sy’n gwasanaethu â Wycliffe – mae rhai ohonynt yn aelodau hirdymor sy’n gwasanaethu dramor, ac mae eraill yn staff yn y swyddfa neu’n gwasanaethu’n lleol trwy godi ymwybyddiaeth. Mae angen eich gweddïau a’ch cefnogaeth arnom i gyd i barhau â’r gwaith hwn! Defnyddiwch y cylchgrawn hwn i gael y wybodaeth ddiweddaraf am holl aelodau Wycliffe a gefnogir gan eglwysi yng Nghymru, ac ymunwch yn y gefnogaeth honno drwy weddi.
Mae cael gwybod am y gwaith, gweddïo yn ei gylch, a’i gefnogi’n ariannol yn ffyrdd arwyddocaol iawn o gymryd rhan yn y gwaith! Boed hynny am y rhai sy’n ymwneud yn uniongyrchol â phrosiectau cyfieithu, y cymunedau y gobeithiwn y byddant yn cael eu newid gan air Duw, neu’r bobl yma yng Nghymru sy’n gweithio gyda Wycliffe.
Felly, i gael gwybod am y cyfan y mae Duw yn ei wneud drwy Wycliffe yng Nghymru a thu hwnt, cofrestrwch!
Rwy’n llawn tosturi ar ôl darllen y dystiolaeth hyfryd a roddwyd gan Rimamsikwe Matthew yn rhifyn hydref 2020. Mae dewrder y disgybl ymroddedig hwn sy’n arwain yn ddewr Astudiaeth o’r Beibl ar ffurf Sain, yn ysbrydoledig, gyda chanlyniad gwych!’
darllenydd Wycliffe News Cymru