Byddwn yn anfon deunyddiau Wycliffe atoch drwy e-bost, gan gynnwys Wycliffe News Cymru. Mae eich cefnogaeth yn helpu i ddatgloi gair Duw ar gyfer pob calon.

Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau darllen y straeon a’r gweddïau calonogol ac ysbrydoledig y byddwn yn eu hanfon atoch, wrth inni geisio creu llwybrau newydd gyda’n gilydd i obaith ac i drawsnewid bywydau drwy’r Ysgrythur hefyd.

Yn y cyfamser, beth am edrych ar ein straeon diweddaraf?

Wrth aros am y rhifyn nesaf o Wycliffe News Cymru, gallwch ddarllen mwy am y rhaglenni y mae Wycliffe yn partneru â nhw ar ein tudalen Effaith.

Mae gan Wycliffe nifer o bartneriaid yr ydym yn gweithio gyda nhw i hwyluso’r gwaith o gyfieithu’r Beibl ledled y byd. Canfyddwch fwy am ein prif bartner yma.

Os hoffech ymuno â ni ar y daith bwysig hon o gyfieithu’r Beibl drwy weddïo, gallwch ganfod mwy am wahanol ffyrdd y gallwch ymuno â ni mewn gweddi ar ein tudalennau Gweddi, gan gynnwys:

  • Prayers for Life dyddiadur gweddi (a gyhoeddir bob tri mis, gyda phwyntiau mawl a gweddi dyddiol)
  • adnoddau ar gyfer grwpiau bach, gan gynnwys Life in the word, sef canllawiau astudio byr â’r nod o adnewyddu ac ailsbarduno ein hangerdd dros Dduw a’i air, drwy gyfres o bedair sesiwn
  • defosiynau, gan gynnwys Creating community, sy’n archwilio cymuned mewn gwahanol ieithoedd a’r Beibl
  • Grŵp WhatsApp.

Gyda’n gilydd, rydym yn adeiladu etifeddiaeth o ffydd ar gyfer cenedlaethau i ddod.

Diolch am gofrestru i dderbyn Wycliffe News Cymru drwy e-bost, ynghyd â deunyddiau eraill gan Wycliffe.

 

Wycliffe Bible Translators logo Close
Close modal